facebook youtube
facebook youtube

Hanes

Trigolion lleol oedd yn gyfrifol am gychwyn y syniad o agor rheilffordd ar draws Sir Fôn, a dyma sefydlu y Cwmni Rheilffordd Canolog Môn gwreiddiol. Un o hoelion wyth y syniad oedd William Dew, Llangefni, masnachwr lleol llwyddiannus. Cynhaliwyd y cyfarfod ar y 5ed o Orffennaf 1858. Y Cadeirydd oedd Syr William Bulkeley a gwnaeth William Dew, y prif siaradwr, apêl gref am y £150,000 angenrheidiol i gychwyn y fenter. Y weledigaeth oedd rhedeg rheilffordd o orsaf Gaerwen, drwy Llangefni a Llannerch y Medd ymlaen i Borth Amlwch. Y gobaith wedyn oedd mynd a’r rheilffordd yn ei blaen am Gemaes, Llanrhuddlad ac ymuno drachefn â phrif reilffordd Caergybi yn y Fali. (Roedd y cynlluniau arfaethedig yma yn or-uchelgeisiol ac ni welwyd eu gwireddu).

Cynhyrchwyd y postar yma gan Roy Ashworth - arlunydd Lein Amlwch i ddarlunio hanes Rheilffordd Canolog Môn (Lein Amlwch), ynghyd â'r hen lein o Bentre Berw i Draeth Coch/ Benllech ar hyd y blynyddoedd.

Cynllun wedi ei saernïo ar gyfer 18 milltir o reilffordd o’r Gaerwen i Borth Amlwch oedd y bwriad ac amcangyfrifwyd y gôst tua £7,000 y filltir yn cynnwys codi gorsafoedd angenrheidiol. Pwysleisiwyd o’r cychwyn mai rheilffordd Sir Fôn oedd hon i fod ac mai ei bwriad oedd gwasanaethu pobl Môn.

Ym 1863 cytunodd y Senedd i ganiatau yr hawliau angenrheidiol, ac fe dorrwyd y dorchen gyntaf ger Eglwys Cyngar Sant, Llangefni gan Mrs W. Bulkeley Hughes, sef priod un o gefnogwyr mawr y fenter. Ymgymerwyd â’r gwaith gan Russell a Dickenson ynghyd â Colin MacKenzie fel prif beiriannydd.

Gadawodd y trên gyntaf un y Gaerwen am Langefni ar yr 16eg o fis Rhagfyr 1864 efo Cyfarwyddwyr ynghyd â gwahoddedigion lleol, gan gyrraedd gorsaf Llangefni oedd pryd hynny tua chwarter milltir i’r de o’r orsaf bresennol. Diddanwyd tua chant o wahoddedigion gan y Cyfarwyddwyr a gweithwyr yng Ngwesty’r Bull Llangefni ac yna cafwyd mwy o wledda yng Ngwesty’r British ym Mangor yn y ’pnawn! Gwta fythefnos yn ddiweddarach ‘roedd y rheilffordd ar gael at bwrpas cludo nwyddau. Cafwyd yr hawl cyntaf i gludo teithwyr ar yr 8fed o fis Mawrth 1865 yn dilyn archwiliad gan arolygwyr y Llywodraeth ac wrth gwrs gael cadarnhad trwy dysysgrif fod y gofynion diogelwch yn ddilys. Cyrhaeddwyd Llannerch y Medd ar y 1af o fis Chwefror1866, efo hawliau llawn i’r cyhoedd gael defnyddio’r lein.

Ar y 3ydd o fis Mehefin 1867 cyrhaeddodd y rheilffordd Amlwch efo pob dim yn ei le at bwrpas cludo teithwyr a nwyddau. Chwalwyd y cynlluniau i fynd ymlaen i’r Borth oherwydd prinder arian.

Parhaodd Cwmni Rheilffordd Canolog Môn i logi eu cerbydau ac injans oddi wrth gwmni yr LNWR hyd at 1876 ond yna cafodd y Cwmni lleol ar ddeall mai dyfodol tywyll oedd i barhâd y cynllun. Gwaethaf modd ’roedd sefyllfa ariannol y Cwmni lleol yn hynod fregus, ac o’r herwydd ’roedd medru cynnal trafodaethau o werth efo’r LNWR yn amhosib. O ganlyniad, digwyddodd yr anorfod, ac ar y 1af o fis Gorffennaf 1876 cymerodd yr LNWR y rheilffordd trosodd i’w meddiant.

Yr unig ddamwain sylweddol ar unrhyw reilffordd ym Môn yn ystod y ganrif oedd honno ar Lein Amlwch ar y 29ain o fis Tachwedd 1877. Yn dilyn llifogydd gafwyd yn yr Hydref, ’roedd yr afonydd yn gorlifo ac o ganlyniad fe chwalwyd Pont Caemawr, tua milltir i’r gogledd o Lannerch y Medd. Hyd heddiw, cyfeiria’r trigolion lleol at y bont yma fel “Pont Ddamwain”. Yn ddiarwybod o’r hyn oedd o’u blaenau aeth trên gynta’r bore ar ei phen i ddyfroedd gwyllt yr afon. Ar wahan i un cerbyd yn unig, llusgodd yr injan y cwbwl i’r dŵr. Dinistriwyd y rhan fwyaf o’r cerbydau yn llwyr. Yn ffodus, dim ond un oedd yn teithio ar y trên 6.20 y bore ofnadwy hwnnw, ond yn drist iawn fe gollodd y gyrrwr, y taniwr a’r arolygwr eu bywydau.

Ym 1952 sefydlodd Cwmni yr Associated Ethyl Cyf. (yn ddiweddarach yr Associated Octel Cyf.) waith cemegion ym Mhorth Amlwch, gan adeiladu tri chwarter milltir o reilffordd er mwyn medru cysylltu’r gwaith efo’r brif reilffordd yn Amlwch. Bellach ’roedd modd cludo ethylene dibromide a chlorine nol a blaen i gangen arall o’r gwaith yn Ellesmere Port. Yn ôl y galw ’roedd trên yn cludo brwmstan hefyd yn dod i lawr i’r Borth o ddociau Mostyn yn Sir y Fflint. Yn anffodus, ar ôl defnyddio’r lein am ddeugain mynedd namyn un daeth Arbenigwyr Iechyd a Diogelwch y cyfnod i’r casgliad mai doethach fyddai cludo’r cemegion peryglus yma ar y ffordd fawr yn hytrach nac ar y lein. O ganlyniad i’r penderfyniad yma, llithrodd y trên danciau olaf o’r Borth am y tir mawr ar yr 20fed o fis Medi 1993, tu ôl i injan dosbarth 47 rhif 47228. Foddbynnag, parhaodd trenau octel i ddefnyddio’r lein ddwy waith yr wythnos hyd at y 10fed o fis Chwefror 1994 pan ddaeth y diwedd go iawn, a gadawodd y trên olaf Borth Amlwch tu ôl i injan math 2, rhif 31126 am Gyffordd Llandudno, gan derfynu tua 130 o flynyddoedd o wasanaeth trenau ar Lein Amlwch.

Tua chanol y saithdegau penderfynodd Cwmni Olew Shell mewn cydweithrediad a’r Marine Terminal yn Amlwch adeiladu safle o 200 erw o dir yn Rhosgoch, ac er mwyn hwylustod i bawb gosodwyd rheilffordd trwy gyfrwng cyffordd o lein Amlwch i mewn i’r safle. Gwaethaf modd, byr iawn fu tynged y fenter yma o eiddo Shell, a bellach mae’r safle wedi ei chlirio. Mae’r rheilffordd a’r gyffordd, foddbynnag, yn dal yn eu lle yn barod i gael eu hail ddefnyddio gan pwy bynnag fydd yn prynu ac ail ddefnyddio’r safle enfawr yma.

Yn anffodus, fel yn hanes nifer helaeth o reilffyrdd tebyg, ar y 7fed o fis Rhagfyr 1964 disgynnodd bwyell ddidrugaredd Dr. Beeching ar hyd yn oed Lein Amlwch ac o ganlyniad gadawodd y trên olaf y dref (DMU 3 cerbyd) am 10.00 o’r gloch yr hwyr gan gyrraedd Bangor erbyn 10.47.

Oherwydd ymdrechion parhaol, caled a di-ildio Cwmni Rheilffordd Canolog Môn Cyf., ynghyd ag eraill, mae’r cyfan o’r rheilffordd yn dal yn ei lle. Rhaid, er mwyn adfer economi Ynys Môn, i’r lein unigryw yma ail agor. Bwriad Cwmni Rheilffordd Canolog Môn Cyf., efo’ch cefnogaeth chi, yw sicrhau hynny.