facebook youtube
facebook youtube

Am Lein Amlwch

Criw o wirfoddolwyr ydan ni yn gweithio yn ddi-flino i ail agor y rheilffordd werthfawr hon o Amlwch i Gaerwen ac efallai ymhellach er mwyn creu trafnidiaeth gymunedol a gwaith angenrheidiol i Ynys Môn.

Lein Amlwch

Mae y lês am 99 mlynedd gennym gan Network Rail ac wrth roi y lês i ni y maent yn dangos eu hyder ynom ac mae hyn yn gyfle arbennig i ni i gwbwlhau ein hymdrech i ail agor y lein. Mae’n gyfle cyffrous wrth i Dechnoleg newydd roi y posibilrwydd o greu rheiffordd glanach ar gyfer y dyfodol.

Lein Amlwch

Mae gwaith clirio y lein wedi mynd ymlaen ers llawer blwyddyn ond rwan mae’r lês gennym mae y ffordd yn agored i ni allu ceisio am nawdd i helpu ein gwaith, nid yn unig ei chlirio hi o frwgash a chwyn ond ei hadnewyddu ar gyfer rhedeg tren arni.

Lein Amlwch

Mae llawer o sôn fod hyn yn mynd i gostio arian mawr ond mi rydym yn ffyddiog y byddwn yn gallu bod yn rhatach na chwmniau mawr gan y bydd gennym griw o wirfoddolwyr a chontractwyr preifat a ellith ein galluogi i fod yn rhatach a fforddiadwy.

Lein Amlwch

Rydym yn credu gyda mwy o gefnogaeth y byddwn yn llwyddo. Mae ein hymdrech wedi bod yn fychan hyd yn hyn ond er hyn mi rydym wedi clirio sawl milltir yn lân gyda chriw bychan iawn. Meddyliwch be allwn ni wneud gyda chwmni peirianyddol a gwirfoddolwyr yn gweithio i glirio y cledrau ? Mi fuasai yn anhygoel.

Lein Amlwch

Rydym yn ffyddiog y byddwn yn gallu gwneud mwy y flwyddyn hon nag erioed, wrth i ni geisio ymuno Llannerch y Medd gyda Llangwyllog a Llangefni. Mae’r dyfodol yn ddisglair a dim ond un ffordd y byddwn yn mynd -Ymlaen!

Lein Amlwch

Cefnogwch ni wrth ymaelodi neu gyfrannu yn ariannol neu hyd yn oed gwirfoddoli ar y lein.

Ebostiwch ni i holi.